Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher, 19 Medi 2018

Amser: 08.57 - 12.46
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5161


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

John Griffiths AC (Cadeirydd)

Gareth Bennett AC

Siân Gwenllian AC

Jenny Rathbone AC

David Melding AC

Tystion:

Jim McKirdle, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Gareth Williams, Cyngor Sir Caerfyrddin

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Tai ac Adfywio

Emma Williams, Llywodraeth Cymru

Helen Kellaway, Llywodraeth Cymru

Huw Charles, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Naomi Stocks (Clerc)

Chloe Davies (Dirprwy Glerc)

Jonathan Baxter (Ymchwilydd)

Megan Jones (Ymchwilydd)

Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mark Isherwood AC. Roedd David Melding AC yn dirprwyo ar ei ran. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Jack Sargeant AC a Bethan Sayed AC.

 

</AI1>

<AI2>

2       Y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) – sesiwn dystiolaeth 8

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Jim McKirdle, Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

·         Gareth Williams, Rheolwr Asiantaeth Llety (Iechyd yr Amgylchedd, Llety Dros Dro, Gosodiadau Cymdeithasol a Datblygu Sector Preifat), Cyngor Sir Gâr

</AI2>

<AI3>

3       Y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) – sesiwn dystiolaeth 9

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio

·         Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

·         Helen Kellaway, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

·         Huw Charles, Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru

 

3.2 Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y Gweinidog Tai ac Adfywio i ddarparu'r canlynol:

·         trosolwg o'r hyn a gaiff ei gynnwys yn y canllawiau i denantiaid a landlordiaid cyn i'r Bil ddod i rym. Ymrwymwyd i ddarparu'r trosolwg hwn cyn dechrau'r gwaith o graffu ar y Bil yng Nghyfnod 2.

·         nodyn i egluro pam y mae angen y darpariaethau a geir yn y Bil ar hyn o bryd o ran yr hawl i rentu.

·         rhagor o wybodaeth am sut y bydd y Ddeddf yn cael ei gwerthuso unwaith y daw i rym.

·         eglurhad ynghylch pam nad yw'r Bil yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol gynorthwyo deiliaid contract i adennill taliadau gwaharddedig.

 

</AI3>

<AI4>

4       Papurau i’w nodi

</AI4>

<AI5>

4.1   Llythyr oddi wrth y Llywydd mewn perthynas â hawliau pleidleisio i garcharorion

4.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Llywydd mewn perthynas â hawliau pleidleisio i garcharorion

</AI5>

<AI6>

4.2   Llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru

4.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghylch diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru

</AI6>

<AI7>

4.3   Llythyr oddi wrth y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol mewn perthynas â Hawliau Dynol yng Nghymru

4.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol mewn perthynas â Hawliau Dynol yng Nghymru

</AI7>

<AI8>

4.4   Llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru

4.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru

</AI8>

<AI9>

4.13Llythyr ar y cyd â Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20

4.5a Nododd y Pwyllgor y llythyr ar y cyd â Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20

</AI9>

<AI10>

4.6   Llythyr ar y cyd gan randdeiliaid mewn perthynas â'r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

4.6a Nododd y Pwyllgor y llythyr ar y cyd gan randdeiliaid mewn perthynas â'r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

</AI10>

<AI11>

4.7   Llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â’r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

4.7a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â’r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

</AI11>

<AI12>

4.8   Llythyr oddi wrth y Llywydd mewn perthynas â digwyddiadau’r rhaglen Senedd@

4.8a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Llywydd mewn perthynas â digwyddiadau’r rhaglen Senedd@

</AI12>

<AI13>

4.9   Cyflwyniad ysgrifenedig i Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig mewn perthynas â thlodi

4.9a Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad ysgrifenedig i Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig mewn perthynas â thlodi

</AI13>

<AI14>

4.10Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel

4.10a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel

</AI14>

<AI15>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI15>

<AI16>

6       Y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru): trafod y materion allweddol

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y materion allweddol.

</AI16>

<AI17>

7       Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru – trafod ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad

7.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

</AI17>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>